CollegesWales International
Mae CollegesWales International yn ran o GolegauCymru. Mae ganddo orwelion eang. Dechreua bywyd yn Ewrop ynghyd ag ymhellach i ffwrdd yn Tsieina. Ei bwrpas yw cynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru ac i godi ei dyheadau. Rydyn ni'n byw mewn economi fyd-eang. Mae angen cyfleoedd ar ddysgwyr Cymru i'w helpu i ddod o hyd i'w lle yn y byd.
Y gwledydd Ewropeaidd cyntaf i gael profiad o CollegesWales International yw Sbaen a’r Eidal. Trefnir lleoliadau gwaith o ddwy neu dair wythnos gyda chyflogwyr yn Ewrop i brentisiaid o Gymru. Mae’n gweithio gyda chyflogwyr yng Nghymru hefyd i leoli myfyrwyr o Ewrop mewn gweithleoedd fan hyn.
Ymhellach i ffwrdd yn Tsieina, roedd myfyrwyr coleg a staff o Gymru dan gyfaredd ar eu hymweliad cyntaf â Chongqing, Tsieina ym mis Mawrth eleni lle cymerasant ran yng Nghyfnewid Sgiliau cyntaf Tsieina-Cymru. Ers hynny, mae’r momentwm i gadarnhau’r berthynas gyda cholegau Tsieina wedi mynd o nerth i nerth.
Am fanylion ar weithgareddau CollegesWales International, ewch at:
Ewrop
Tsieina