Enillwyr Gwobrau VQ 2011: Melissa Jenkins, ffotograffydd, Coleg Penybont (yn y llun), a Luke Thomas, cogydd, Coleg Iâl Wrecsam.

newyddion diweddaraf

26/01/2012
Wyneb Newydd a Chyfleoedd Newydd i ColegauCymru
Yr wythnos hon, croesawodd ColegauCymru Greg Walker i swydd y Dirprwy Brif Weithredwr sydd newydd gael ei chreu. Mwy>>>  
23/01/12
Cyhoeddi Cystadleuaeth am Ragoriaeth mewn Addysg Bellach
Disgwylir cystadlu brwd rhwng colegau addysg bellach eleni eto wrth i gategorïau Gwobrau ColegauCymru 2012 agor i geisiadau.  Mwy>>>
07/12/11
Ydy cymwysterau Cymru’n addas i’r diben? Trafodwch. 
Ymunwch â’r drafodaeth ar-lein sy'n rhagflaenu’r gynhadledd genedlaethol ar gymwysterau ar 2 Chwefror 2012 a fydd yn cyfrannu at yr Adolygiad Cymwysterau swyddogol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mwy >>>  
27 January 2012
Colegau'n croesawu cynnydd i gyllid sgiliau
Colleges in Wales have welcomed the Welsh Government’s continued investment in adult skills and Pathways to Apprenticeships – programmes that specifically aim to tackle the skills needs of young people and adults in these difficult economic times. Mwy >>>
follow us on twitter Dilynwch ni ar Twitter
read the blog Darllenwch y blog

Croeso i GolegauCymru

Mae ColegauCymru yn codi proffil addysg bellach gyda'r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru.

Mae colegau ledled Cymru yn rhannu arfer dda mewn ffordd sustematig er mwyn codi ansawdd ar bob cyfle.  

Rhwydweithiau >
Cynadleddau a Seminarau >
Gwobrau Blynyddol >
Codi Ansawdd >

rhyngwladol

Mae ColegauCymru yn ehangu gorwelion ac yn gweithio yn rhyngwladol dan faner CollegesWales International.  

Gorolwg rhyngwladol >
Ewrop
Tseina >

Mae ColegauCymru yn gweithio i ddylanwadu ar bolisiau ac ymarferion er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr.

Papurau cefndir a pholisiau > 
Ymatebion i ymgynghoriadau >
Cyhoeddiadau >
Archif newyddion >

WorldSkills London supporter logo

Bu colegau ledled Cymru yn arddangos sgiliau o fri yn WorldSkills Llundain 5-8 Hydref.

Roedd ColegauCymru yn hynod falch bod WorldSkills 2011 wedi ei llwyfannu yn y DU. Cynhelir y gystadleuaeth bob dwy flynedd a dyma'r drydedd gwaith iddi ddod i'r DU. Mae'n ddigwyddiad anhygoel o fawr! Mae hefyd yn gyfle arbennig i ysbrydoli'n hieuenctid i fynd ati i ddatblygu sgiliau gyda'r gorau'n y byd dros ystod eang o alwedigaethau.  

Y sector addysg bellach yng Nghymru

Mae yna 18 o golegau addysg bellach (AB) a dau sefydliad AB yng Nghymru. Maent yn amrywio’n sylweddol o ran maint, nifer a math o myfyrwyr ac amrywiaeth y rhaglenni a’r gwasanaethau a gynigir. Mae’r rhan fwyaf o golegau’n cynnig rhaglenni academaidd a galwedigaethol. Mae rhai colegau wedi datblygu arbenigedd mewn meysydd galwedigaethol penodol, er enghraifft astudiaethau sy’n seiliedig ar y tir, peirianneg forol, technoleg bwyd.  Mae rhai wedi datblygu darpariaeth sy’n anelu at gyfran penodol o’r boblogaeth, megis oedolion sy’n dychwelyd i ddysgu, myfyrwyr rhyngwladol, neu hyfforddiant ar gyfer busnesau.

Mae’r sector AB yn gwneud cyfraniad pwysig i agenda Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad i addysg, mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol, a hybu tŵf yn yr economi. Mae colegau yng Nghymru yn darparu 80% o’r holl gymwysterau ôl-16 ac yn darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bron i 200,000 o bobl yng Nghymru. Mae’r sector wedi ymrwymo i hyfforddiant ac addysg o ansawdd uchel sy’n ymateb i anghenion unigolion, cymunedau a busnesau.

Mae dwyran o dair o'r holl ddysgwyr oed 16-18 yn dewis astudio mewn coleg. Mae mwy fyth o oedolion yn astudio mewn coleg. Mae 80% o fyfyrwyr colegau yn oedolion dros 19 oed ac mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr yn astudio rhan amser.

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500