Pwy 'Rydyn Ni
ColegauCymru yw'r corff cenedlaethol sy'n cynrychioli yr 18 o golegau addysg bellach (AB) a'r ddau sefydliad AB yng Nghymru. Cafodd ei greu yn 1993 yn elusen addysgiadol a chwmni cyfyngedig trwy warant. Cafodd ei adnabod fel "fforwm" tan ei ail-enwi yn 2009.
Lleolir swyddfeydd ColegauCymru yn Nhongwynlais, Caerdydd, ynghyd â staff o ddeg a thîm bach o ymgynghorwyr.
Trwy ColegauCymru, caiff colegau eu cynrychioli ar amryw bwyllgor, partïon gwaith, a grwpiau eraill sy'n dylanwadu ac yn llywio polisiau addysg ôl-16 a dysgu gydol oes. Yn y bôn, staff uwch ColegauCymru sy'n cynrychioli'r sector ar y grwpiau hyn. Mae'n bosib hefyd i aelodau o'r bwrdd, penaethiaid colegau, a staff uwch yr aelod-golegau gael eu enwebu gan Fwrdd ColegauCymru, y prif weithredwr, neu gan rwydwaith ColegauCymru i gynrychioli colegau ar faes polisi neu bwyllgor penodol.