Y sector addysg bellach yng Nghymru
Mae yna 18 o golegau addysg bellach (AB) a dau sefydliad AB yng Nghymru. Maent yn amrywio’n sylweddol o ran maint, nifer a math o myfyrwyr ac amrywiaeth y rhaglenni a’r gwasanaethau a gynigir. Mae’r rhan fwyaf o golegau’n cynnig rhaglenni academaidd a galwedigaethol. Mae rhai colegau wedi datblygu arbenigedd mewn meysydd galwedigaethol penodol, er enghraifft astudiaethau sy’n seiliedig ar y tir, peirianneg forol, technoleg bwyd. Mae rhai wedi datblygu darpariaeth sy’n anelu at gyfran penodol o’r boblogaeth, megis oedolion sy’n dychwelyd i ddysgu, myfyrwyr rhyngwladol, neu hyfforddiant ar gyfer busnesau.
Mae’r sector AB yn gwneud cyfraniad pwysig i agenda Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad i addysg, mynd i’r afael ag eithrio cymdeithasol, a hybu tŵf yn yr economi. Mae colegau yng Nghymru yn darparu 80% o’r holl gymwysterau ôl-16 ac yn darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bron i 200,000 o bobl yng Nghymru. Mae’r sector wedi ymrwymo i hyfforddiant ac addysg o ansawdd uchel sy’n ymateb i anghenion unigolion, cymunedau a busnesau.
Mae dwyran o dair o'r holl ddysgwyr oed 16-18 yn dewis astudio mewn coleg. Mae mwy fyth o oedolion yn astudio mewn coleg. Mae 80% o fyfyrwyr colegau yn oedolion dros 19 oed ac mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr yn astudio rhan amser.