26 Ionawr 2012

Wyneb Newydd a Chyfleoedd Newydd i ColegauCymru

Yr wythnos hon, croesawodd ColegauCymru Greg Walker i swydd y Dirprwy Brif Weithredwr sydd newydd gael ei chreu.

Greg Walker

Tan yn ddiweddar, Greg oedd Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, sy’n rhan o Universities UK.  Cyn hynny gweithiodd i asiantaeth y Swyddfa Gartref ar faterion cyfiawnder ieuenctid o fewn Llywodraeth Cymru.  Cafodd Greg, a fagwyd yn Ne Cymru, ei addysgu yng Nghaerffili a Chaerdydd, ac mae disgwyl iddo raddio gyda doethuriaeth o Brifysgol Caerdydd yn nes ymlaen eleni.

O gyfarch y nifer fawr o heriau a chyfleoedd y mae ColegauCymru a cholegau addysg bellach (AB) yn eu hwynebu wrth iddo ddechrau ar ei rôl newydd, dywedodd Greg Walker: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i weithio mewn addysg bellach yng Nghymru. Mae arweinwyr colegau wedi dangos yn ddigonol eu gallu i gymryd agendâu canolog mewn perthynas ag ansawdd ac wrth drawsnewid y gwaith o gyflwyno AB ar hyd a lled Cymru.

“Mae ColegauCymru wedi bod yn hynod effeithiol wrth godi proffil a statws addysg bellach er lles dysgwyr ar draws Cymru gyfan. Mae gan AB ran hanfodol i’w chwarae wrth fodloni her sgiliau Cymru a’r angen i baratoi pobl i fynd nôl i waith ar yr adeg anodd hon. Rwy’n ymhyfrydu yn y cyfle i chwarae rôl flaengar yn y gwaith hwn.”

Wrth groesawu penodiad Greg, dywedodd David Jones, Cadeirydd ColegauCymru: “Rydw i wrth fy modd o groesawu Greg i ColegauCymru. Mae gan Greg hanes aruthrol o weithio mewn addysg ac ar faterion polisi sy’n ymwneud â phobl ifanc. Mae’n derbyn y rôl bwysig hon ar adeg lle mae nifer fawr o gyfleoedd newydd i’w harchwilio a’u datblygu. Bydd Greg yn gweithio ar ystod o faterion gyda chydweithwyr, gan gynnwys ehangu gorwelion rhyngwladol colegau addysg bellach a gwaith hanfodol ar wella ansawdd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gydag ef er mwyn bodloni’r heriau hyn.”

--------------------------------Diwedd---------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:

1. Adwaenir ColegauCymru gynt yn fforwm. Elusen addysg cenedlaethol ydyw sy'n cynrychioli'r 20 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

 

 

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500