
11 Mai 2011
Tips arian yn ennill taith i Canary Wharf i fyfyrwyr
Bydd enillwyr cystadleuaeth Tips Arian i Gymru, y cyhoeddwyd eu henwau heddiw, yn mynd gydag enillwyr y gystadleuaeth o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i bencadlys Barclays yn Canary Wharf, Llundain, i gael gweld sut mae cyrraedd y brig.
Dyma’r cynigion buddugol yn nhri chategori’r gystadleuaeth, sef Tip Arian i Gymru, Tip Arian i Golegau, a Tip Arian i Unigolion:
- Tip Arian i Gymru: “Dylai archfarchnadoedd leihau deunyddiau pacio a chost siopa trwy ddarparu peiriannau i gyflenwi bwydydd sych fel pasta, reis a siwgr, y gallai cwsmeriaid eu rhoi mewn cynwysyddion â chodau arnyn nhw”. (Enillwyr: Suzannah, Suzanne a Jakki o Goleg Glannau Dyfrdwy)
- Tip Arian i Golegau: “Dylai colegau leihau cost astudio i fyfyrwyr trwy gynnal arwerthiannau gwerslyfrau ail-law, a fyddai hefyd yn lleihau gwastraff a chodi arian i brynu llyfrau newydd”. (Enillydd: Carl Mahoney o Goleg Merthyr Tydfil)
- Tip Arian i Unigolion: “Gallwch fyw yn unol â’ch incwm trwy dalu biliau’n brydlon er mwyn osgoi taliadau llog, cadw cofnod o’r hyn rydych chi’n ei wario mewn llyfr nodiadau, a storio derbynebau a biliau er mwyn cadw trefn arnyn nhw.” (Enillydd: Alex Williams, Coleg Gŵyr Abertawe)
Cystadleuaeth Tips Arian yw penllanw rhaglen ddigwyddiadau Wythnos Sgiliau Ariannol Barclays, sydd wedi rhoi awgrymiadau ac offer defnyddiol i filoedd o fyfyrwyr coleg ar draws Cymru i reoli eu harian mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog gan gynnwys ‘steil ar arian bach’, ‘her y fasged siopa’, prawf blasu o’r enw ‘blas ar arian’ ac ‘awgrymiadau ariannol i deuluoedd’.
Dywedodd Berni Tyler o GolegauCymru, Rheolwr Rhaglen Wythnosau Sgiliau Ariannol yng Nghymru: “Mae miloedd o fyfyrwyr o 14 coleg addysg bellach yng Nghymru wedi dysgu llawer iawn, diolch i’r Wythnos Ariannol eleni. Maen nhw wedi edrych ar sut i gyllidebu a sut i gynilo – sgiliau bywyd hanfodol a fydd yn eu helpu ar eu ffordd trwy addysg ac i fyd gwaith.
“Mae taith i Canary Wharf yn ddiwedd gwych i weithgareddau’r Wythnos Ariannol eleni. Rwy’n hapus iawn dros y pum myfyriwr buddugol, sydd wedi dangos y gallan nhw gymhwyso eu dysgu a meddwl yn gwbl ddilyffethair.”
------------------------------------Diwedd-----------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. ColegauCymru yw'r enw newydd ar fforwm. Elusen addysg cenedlaethol ydyw sy'n cynrychioli'r 21 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Mae ‘wythnosau’ Sgiliau Ariannol Barclays wedi cael eu cynllunio i roi ymwybyddiaeth i fyfyrwyr o faterion ariannol personol ac i roi offer iddynt i reoli eu cyllideb. Gyda chymorth gan GolegauCymru ac eraill, mae Barclays mewn partneriaeth â’r Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol wedi gweithio i ddarparu’r wythnos dysgu mewn 150 o golegau ledled Prydain. www.barclaysmoneyskills.com
3. Yng Nghymru, y colegau gymrodd rhan yn y gystadleuaeth Tips Arian oedd:
- Coleg y Barri
- Coleg Ceredigion
- Coleg Glan Hafren
- Coleg Llandrillo Cymru
- Coleg Powys
- Coleg Sir Gâr
- Coleg Glannau Dyfrdwy
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Coleg Merthyr Tudful
- Coleg Castell Nedd Port Talbot
- Coleg Sir Benfro
- Coleg Catholig Dewi Sant
- Coleg Iâl
- Coleg Ystrad Mynach
4. Cyhoeddwyd enwau buddugwyr y gystadleuaeth gan Kathy Brown, Rheolwr Buddsoddiad Cymunedol, ar 9 Mai 2011 mewn disgwyddiad yng Nghaerdydd a drefnwyd gan yr Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol.
5. Caiff tips diddorol eu cyhoeddi ar www.twitter.com/CollegesWales a thrwy #moneytipsWales #moneyweek.