Cynhadledd Dysgu ac Addysgu

Pryd: 30 Mawrth 2012
Ble: Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd

Beth:  Y gynhadledd gyntaf ar ddysgu ac addysgu ar gyfer colegau addysg bellach (AB) yng Nghymru, bwrieda’r gynhadledd hon atgyfnerthu dysgu ac addysgu fel prif flaenoriaeth colegau AB Cymru.

Pam: Dywed adroddiad flynyddol ddiweddaraf Estyn (2009/10) na ddyfarnwyd graddau 'rhagorol' ar gyfer dysgu ac addysgu yn ystod y flwyddyn flaenorol, a thros y cylch arolygu chwe blynedd diwethaf, dim ond 21% oedd wedi derbyn dyfarniad addysgu 'rhagorol'.

Themâu:

  • Asesu Ffurfiannol
  • Strategaethau Dysgu Gwahaniaethol

Trefnir gan: ColegauCymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru

Arweinir gan: Geoff Petty

Geoff yw awdur Teaching Today, brig-lyfr y DU ar hyfforddi athrawon.  Mae ganddo , enw da am egluro materion dysgu ac addysgu mewn ffordd fywiog ac sy’n ysbrydoli ond sydd hefyd yn ymarferol.  Mae Geoff wedi gweithio fel ymgynghorydd gyda mwy na 200 o golegau, a chydag amryw gorff addysgol, yn Lloegr yn bennaf.  Mae Geoff yn cyfrannu at gynadleddau dysgu ac addysgu ledled y DU.  Mae e wedi gweithio fel athro ffiseg, hyfforddwr athrawon, ac fel rheolwr datblygu dysgu.  Bu i lyfr Geoff, Evidence Based Teaching (2006), ennill cymeradwyaeth gan ysgolheigion ac ymarferwyr dysgu.  Ymwelir â’i wefan www.geoffpetty.com rhyw 2,000 o weithiau’r wythnos. 

Nodau:

  • Darparu cyfle datblygu proffesiynol ar gyfer staff addysgu mewn sefydliadau AB yng Nghymru
  • Deall egwyddorion ac effeithiolrwydd asesu ffurfiannol 
  • Hyrwyddo defnydd y strategaethau addysgu gwahaniaethol sy’n cyrraedd anghenion dysgwyr
  • Adnabod dulliau dysgu ac addysgu cyfranogol effeithiol sy’n gwella canlyniadau dysgwyr
  • Annog y defnydd o: arbrofi dan gefnogaeth, a chymunedau gweithredu proffesiynol
  • Rhannu arferion a thechnegau addysgu llwyddiannus ar draws colegau AB Cymru.

Cynulleidfa darged
Rheolwyr ansawdd, hyrwyddwyr dysgu, rheolwyr datblygu staff, ymarferwyr uwch, rheolwyr timau dysgu, athrawon, arsyllwyr addysgu.

Cost: £32 y pen. Archebwch yma.

Pecyn y gynhadledd
Bydd cyfranogwyr yn derbyn pecyn swmpus o ddeunyddiau Geoff Petty ar y diwrnod. 

Rhaglen
Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 30Maw2012: Rhaglen

Archebwch Nawr!

Ffurflen archebu

Rhaglen

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500