29 Medi 2011

Mynd i’r Afael â’r Cwricwlwm

Mewn ymateb i gyhoeddiad heddiw gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau o Adolygiad Cymwysterau i bobl 14-19 oed yng Nghymru, mae ColegauCymru / CollegesWales yn trefnu cynhadledd ar gymwysterau ar 2 Chwefror 2012 er mwyn cyfrannu at y broses ymgynghori.

Dywedodd John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru / CollegesWales: “Rwy’n falch fod gan y ddadl genedlaethol ar gymwysterau, a anogwyd yn y lle cyntaf gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews ym mis Chwefror, strwythur erbyn hyn a gall pob un ohonom ddechrau mynd i’r afael â’r prif faterion dros y flwyddyn i ddod.

“Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn gytûn fod angen system gymwysterau syml ar Gymru sy’n cynnwys cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol sy’n ddiweddar, yn berthnasol ac a ddeellir ac a werthfawrogir gan fyfyrwyr, cyflogwyr, entrepreneuriaid a phrifysgolion. Mae dilyniant o un lefel ddysgu i’r nesaf yn hollbwysig, yn ogystal â pharatoi dysgwyr i’r byd gwaith.

“Yn ei hanfod, mae angen inni godi llythrennedd a rhifedd ar draws pob oedran, a hynny ar frys. Mae cyfraddau llythrennedd a rhifedd yn annerbyniol o isel yng Nghymru. Mae angen mesur safonol arnom i asesu man cychwyn dysgwyr ac i olrhain eu cynnydd. Byddai defnyddio un prawf llythrennedd cyffredin mewn ysgolion ac ymhlith pob darparwr dysgu ôl-16 yn gam i’r cyfeiriad cywir.

“Mae gormod o ddysgwyr yn cyrraedd colegau addysg bellach gyda lefelau llythrennedd a rhifedd isel, a chânt eu dal yn ôl yn gyson rhag ymrestru ar gwrs lefel uwch hyd nes iddynt gael digon o gymorth ychwanegol i’w codi i’r lefel ofynnol i gael mynediad i gwrs technegol neu academaidd. Felly, rhaid i’r Adolygiad Cymwysterau ganolbwyntio ar ddilyniant o un lefel ddysgu i’r un nesaf  - o sgiliau sylfaenol i addysg uwch. Ni all Cymru fforddio i’w dysgwyr 14-19 oed beidio â chyflawni eu potensial.

“Mae ColegauCymru / CollegesWales yn awyddus i weithio’n agos gyda’r tîm sy’n cynnal yr Adolygiad Cymwysterau ac mae eisoes wedi cymryd camau i drefnu cynhadledd fawr ar 2 Chwefror 2012 a fydd yn cyfrannu at yr Adolygiad. Mae rhestr o siaradwyr allweddol mawr eu parch yn cael ei chadarnhau, sy’n cynnwys y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert a’r Athro Alison Wolf a gadeiriodd yr Adolygiad Cymwysterau Galwedigaethol i Lywodraeth Lloegr yn ddiweddar.”
------------------------------------Diwedd--------------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:

1. Adwaenir ColegauCymru gynt yn fforwm. Elusen addysg cenedlaethol ydyw sy'n cynrychioli'r 20 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk

2. Bu i’r Dirprwy Weinidog gyhoeddi’r Adolygiad Cymwysterau ar 29 Medi 2011 mewn cyfarfod Sgiliau Busness yn Abertawe. Ceir ddatganiad y Llywodraeth yma: http://cymru.gov.uk/newsroom/educationandskills/2011/110929qualifications/?lang=cy 

 

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500