30 Medi 2011
Mae’n swyddogol: mae ColegauCymru’n rhyngwladol
Mae gan fyfyrwyr coleg a phrentisiaid uchelgeisiol sydd am ychwanegu at eu sgiliau galwedigaethol mewn gweithleoedd tramor fwy o gyfleoedd nag erioed bellach wrth i GolegauCymru lansio CollegesWales International.
Mae gan CollegesWales International orwelion eang. Mae’n dechrau ei fywyd yn Ewrop yn ogystal ag ymhellach i ffwrdd yn Tsieina.
Y gwledydd Ewropeaidd cyntaf i gael profiad o CollegesWales International yw Sbaen a’r Eidal. Trefnir lleoliadau gwaith o ddwy neu dair wythnos gyda chyflogwyr yn Ewrop i brentisiaid o Gymru. Mae’n gweithio gyda chyflogwyr yng Nghymru hefyd i leoli myfyrwyr o Ewrop mewn gweithleoedd fan hyn.
Mae’r cynllun cyfnewid dysgu seiliedig ar waith hwn yn uchelgeisiol ac yn heriol i ddysgwyr. Mae eu tiwtoriaid yn eu cynefino â’r wlad sy’n eu cynnal ond wedyn yn dychwelyd adref, gan adael y dysgwyr i ofalu am eu hunain. Mae’r prentisiaid yn byw gyda theuluoedd lleol neu mewn amgylchedd coleg ac mae’n rhaid iddynt addasu i ddiwylliant newydd, cyd-dynnu gyda chydweithwyr newydd a chyfathrebu mewn iaith anghyfarwydd trwy gydol eu harhosiad.
Y rhai cyntaf i elwa ar wasanaethau CollegesWales International oedd pum myfyriwr peirianneg o Sbaen a thri chwmni yn ne Cymru. Mae’r lleoliadau dysgu seiliedig ar waith i’r Sbaenwyr hynny wedi dod i ben ac maen nhw wedi dychwelyd i Sbaen. Mae dau brentis o Abertawe newydd ddychwelyd o leoliadau yn yr Eidal hefyd ac mae dau arall yn yr Eidal ar hyn o bryd. Mae mwy o leoliadau wedi’u cynllunio yn ystod y flwyddyn academaidd hon sy’n cynnwys prentisiaid o wyth coleg ledled Cymru.
Ymhellach i ffwrdd yn Tsieina, roedd myfyrwyr coleg a staff o Gymru dan gyfaredd ar eu hymweliad cyntaf â Chongqing, Tsieina ym mis Mawrth eleni lle cymerasant ran yng Nghyfnewid Sgiliau cyntaf Tsieina-Cymru. Ers hynny, mae’r momentwm i gadarnhau’r berthynas gyda cholegau Tsieina wedi mynd o nerth i nerth.
Yn fuan, bydd cynrychiolydd CollegesWales International yn Chongqing, Tsieina yn gweithio i gonsortiwm o ddeg coleg addysg bellach o swyddfa Llywodraeth Cymru yn Chongqing er mwyn datblygu perthynas gyda busnesau a cholegau technegol Tsieina er lles Cymru a Tsieina fel ei gilydd.
Dywedodd John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru / CollegesWales: “Mae lansiad CollegesWales International yn gam mawr ymlaen i agor marchnadoedd newydd i golegau a’u myfyrwyr a’u prentisiaid yng Nghymru. Mae’r economi fyd-eang yn cynnig cyfleoedd gwerth chweil a chyfoethog i’r sawl a chanddynt y cymhelliad a’r uchelgais i achub ar yr heriau newydd a chyffrous hyn.
“Nod CollegesWales International yw helpu i ddarparu’r cam cyntaf i ddysgwyr galwedigaethol sydd am ddod o hyd i’w ffordd eu hunain yn y farchnad fyd-eang. Mae’n bwysig ein bod ni’n cefnogi’r dysgwyr hyn yn broffesiynol a chydag arbenigedd. Mae lansio CollegesWales International fel brand yn ei hun o fewn teulu ColegauCymru yn dangos i’r byd fod colegau yng Nghymru’n gwbl ymroddedig i’r datblygiad cyffrous hwn.”
Dywedodd Siân Holleran, Cydlynydd Rhyngwladol ColegauCymru: “Mae ColegauCymru’n gweithio’n galed i roi cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru ehangu eu gorwelion a dod o hyd i’w lle yn yr economi fyd-eang. Ni fu gwell amser erioed i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr coleg uchelgeisiol sydd â’u bryd ar lwybr gyrfa alwedigaethol i ychwanegu iaith dramor fodern at eu rhestr o sgiliau galwedigaethol.
“Yn rhyngwladol, gellir canfod gyrfaoedd galwedigaethol cludadwy mewn adeiladu, addysg, arlwyo, gweinyddu busnes, peirianneg, therapi harddwch a mwy. Mae sgiliau technegol a meddal ar lefel uchel a phrofiad o ddiwylliannau eraill a gafael ar iaith arall yn gwneud cyfuniad diguro.
“Rwy’n edrych ymlaen at ehangu’r cyfleoedd hyn yng Nghymru trwy ehangu cyfranogiad dysgwyr Cymraeg mewn lleoliadau gwaith yn Ewrop ac wrth ddatblygu’n perthynas gyda Tsieina.”
---------------------------------Diwedd-------------------------------
Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. Adwaenwyd ColegauCymru / CollegesWales yn flaenorol fel fforwm. Elusen addysgol genedlaethol ydyw sy’n cynrychioli pob un o’r 20 coleg ac athrofa addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei fwriad yw codi proffil addysg bellach gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol i wella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am ColegauCymru / CollegesWales, a’r colegau mae’n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk neu www.collegeswales.ac.uk
2. Mae ColegauCymru wedi bod yn llwyddiannus gyda’i gais i raglen Leonardo i ariannu cynllun symudedd prentisiaid Ewropeaidd ar gyfer 2011/12. Mae Leonardo yn rhan o Raglen Dysgu Gydol Oes y Comisiwn Ewropeaidd. Ecorys yw Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer rhaglen Leonardo ac mae’n rheoli grantiau Leonardo sydd ar gael i sefydliadau’r DU.
3. Gall pob coleg addysg bellach sy’n aelod o ColegauCymru elwa ar wasanaethau CollegesWales International. Ceir rhwydwaith o reolwyr colegau sy’n cwrdd yn rheolaidd i drafod cyfleoedd a datblygiadau ac maent yn rhannu arfer da ar waith rhyngwladol. Hyd yma, mae deg coleg wedi buddsoddi yng Nghonsortiwm Cymru-Chongqing.