6 Ebrill 2011
Gwrando ar Ddysgwyr Colegau
Wrth i gam olaf proses dyfarnu gwobrau blynyddol ColegauCymru 2011 fynd rhagddo, mae colegau’n awyddus i ddangos eu hymrwymiad i wrando ar eu dysgwyr a chyflawni er eu pennaf les.
Yn ‘Arloesi wrth Ymateb i Lais y Dysgwr’ y mae’r gystadleuaeth gryfaf yn y categorïau sydd ar agor i golegau eleni.
Dywedodd Berni Tyler, Pennaeth Ansawdd a Safonau ColegauCymru: “Fwyfwy mae colegau’n cynnwys myfyrwyr yn eu penderfyniadau ac yn cymryd eu hymrwymiad i ymateb i ‘lais y dysgwr’ o ddifrif.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae colegau wedi cynyddu eu hymdrechion i gynnwys myfyrwyr. Er enghraifft, aeth nifer fwy nag erioed o’r blaen o gynrychiolwyr staff a myfyrwyr colegau i gynhadledd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr eleni. Mae staff wedi mynychu sesiynau hyfforddi i’w helpu i gynorthwyo Undebau Myfyrwyr a Swyddogion Sabothol colegau. Mae colegau hefyd yn gweithio’n galed i ddiogelu dysgwyr trwy ddysgu o’r arferion gorau. Hefyd, mae myfyrwyr-lywodraethwyr wedi cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant bwrpasol i sicrhau y gallant gymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau mewn colegau.”
Wrth roi ei sylwadau ar y nifer o geisiadau am Wobrau Blynyddol 2011, sy’n fwy nag erioed o’r blaen, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Mae yna hyder cynyddol yn y sector colegau. Mae Estyn – Arolygiaeth Ei Mawrhydi yng Nghymru – wedi dangos bod colegau’n darparu arweinyddiaeth, addysgu, dysgu, cymorth i fyfyrwyr a rheolaeth ariannol o ansawdd da. Hefyd, yn ddiweddar mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a dau adroddiad annibynnol wedi canmol perfformiad llywodraethwyr colegau a llongyfarch colegau ar eu hymdrechion i gydweithredu gyda darparwyr eraill er budd dysgwyr.
“Ond nid yw colegau addysg bellach yn hunanfodlon. Maent i gyd wedi ymrwymo i barhau i godi lefel eu perfformiad. Mae’r ymrwymiad cadarn hwn i ansawdd da wedi ysgogi mwy o geisiadau gan nifer fwy o golegau ar gyfer gwobrau blynyddol ColegauCymru 2011. Yn arwyddocaol, nid oes gan un coleg fonopoli ar ansawdd da. Mae 15 coleg o bob rhan o Gymru, nifer sy’n fwy nag erioed o’r blaen, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y naw categori yn y gwobrau eleni.”
Casglodd Dr Graystone: “Mae seremoni wobrwyo ColegauCymru yn ddathliad bywiog o’r gorau sydd gan golegau Cymru i’w cynnig. Mae ColegauCymru yn falch iawn o dderbyn nawdd am y gwobrau oddi wrth nifer o gyrff dylanwadol ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y seremoni wobrwyo ar 26 Mai pan fydd noddwyr y gwobrau yn cyhoeddi’r enillwyr haeddiannol.”
--------------------------------Diwedd---------------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. ColegauCymru yw'r enw newydd ar fforwm. Elusen addysg cenedlaethol ydyw sy'n cynrychioli'r 21 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Categoriau Gwobrau 2011 a’u noddwyr yw:
Defnydd effeithiol o’r Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru (CQFW) i gysylltu â chyflogwyr (Agored Cymru)
- Adnoddau Dysgu Digidol (CBAC/GCDC)
- Arweinyddiaeth effeithiol wrth gyflwyno sgiliau (City & Guilds/ILM)
- Ymarfer eithriadol wrth gynnal a gwella ansawdd (Tribal)
- Arloesedd wrth ymateb i lais y dysgwr (OCR)
- Defnydd eithriadol o dechnoleg (UfI/learndirect)
- Defnydd arloesol o gynllunio’r cwricwlwm (Edexcel)
- Dysgwr y flwyddyn (ColegauCymru)
- Athro/Athrawes y flwyddyn (Dysgu Gydol Oes yn y DU)
3. Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni fydd yn cloi Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar 26 Mai 2011.
4. Y colegau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion yw: Coleg Ystrad Mynach, Coleg Sir Gâr, Coleg Catholig Dewi Sant, Coleg Iâl, Coleg Gwent, Coleg Morgannwg, Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Penybont, Coleg Menai, Coleg Llandrillo, Coleg Sir Benfro, Coleg Castell Nedd Port Talbot, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg y Barri, Coleg Glan Hafren.
5. I noddi’r gynhadledd neu i arddangos yn y Gynhadledd Flynyddol a Chynhadledd Llywodraethwyr Addysg Bellach (25 Mai yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd) fel ei gilydd, cysylltwch â Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu ebostiwch Sylvia.davies@colegaucymru.ac.uk
6. Mae adroddiadau arolygiadau Estyn ar gael o www.estyn.gov.uk
7. Mae dau adroddiad diweddar wedi cymeradwyo colegau: