
27 Mai 2011
Gwobrwyo colegau a dysgwyr eithriadol
Mewn seremoni ysblennydd yng Ngwesty Hilton Caerdydd ar 26 Mai, cydnabuwyd dysgwyr ac athrawon eithriadol fel y cyflawnwyr gorau ar draws colegau yng Nghymru, a gwobrwywyd saith coleg am ysgogi gwelliannau sydd o fudd i ddysgwyr.
Mae Gwobrau Blynyddol ColegauCymru’n cydnabod cyflawniadau eithriadol gan ddysgwyr, athrawon a cholegau ac roedd ansawdd y ceisiadau am Wobrau ColegauCymru 2011 yn arbennig o dda. Gwnaethant argraff fawr ar y paneli beirniadu, a nododd fod y colegau wedi “codi’r bar” eleni.
Dywedodd Dr John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Ar y diwrnod y llongyfarchodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews golegau am ymateb i agenda Llywodraeth Cymru dros newid, roedd yn addas bod y noson wedi dod i ben gan arddangos y gorau oll o arferion colegau.
“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr. Mae’r gwobrau hyn yn sicrhau bod yr arferion gorau’n cael eu cydnabod yn briodol. Mae’r gwobrau hefyd yn ganolog i ymdrechion di-baid y colegau i godi safonau ym mhob man trwy ddysgu gan y goreuon.”
Yr enillwyr yw:
- Defnydd effeithiol o’r Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru (CQFW) i gysylltu â chyflogwyr: Coleg Glannau Dyfrdwy
- Adnoddau Dysgu Digidol: Coleg Sir Gâr
- Arweinyddiaeth effeithiol wrth gyflwyno sgiliau: Coleg Morgannwg
- Ymarfer eithriadol wrth gynnal a gwella ansawdd: Coleg Llandrillo Cymru
- Arloesedd wrth ymateb i lais y dysgwr: Coleg Gwent
- Defnydd eithriadol o dechnoleg: Y Coleg Ystrad Mynach
- Defnydd arloesol o gynllunio’r cwricwlwm: Coleg Castell Nedd Port Talbot
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Yn ogystal â saith categori Gwobrau ColegauCymru 2011 oedd yn agored i golegau, roedd Gwobrau ColegauCymru 2011 hefyd yn cydnabod dau unigolyn: Dysgwr y Flwyddyn ac Athro’r Flwyddyn.
“Mae’n bwysig i ni gofio bob amser mai diben colegau yw cynorthwyo dysgwyr i gyrraedd eu nodau. Mae athrawon rhagorol yn allweddol i alluogi dysgwyr i gyflawni, ac mae’n iawn iddyn nhw gael eu cydnabod ar y llwyfan genedlaethol. Llongyfarchiadau i Maria McCarthy o Goleg Glan Hafren, a enillodd Wobr Athro’r Flwyddyn yn erbyn cystadleuwyr cryf iawn ar y rhestr fer.
“Dysgwyr eithriadol, wrth gwrs, yw hanes llwyddiant colegau. Llongyfarchiadau i’r cyd-enillwyr, James Fraser, Coleg y Barri a Shane Evans, Coleg Sir Gâr, ar ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn. Mae’r ddau’n fodelau rôl ardderchog.”
Aeth Dr Graystone ymlaen: “Nid yn unig mae Gwobrau ColegauCymru 2011 o fudd i ddysgwyr, maen nhw hefyd â gwerth eglur i amrywiaeth fawr o sefydliadau cenedlaethol uchel eu parch. Rydym wrth ein bodd i gael nawdd a chefnogaeth gref unwaith eto eleni gan: Agored Cymru, CBAC, City & Guilds/ILM, Edexcel, Learndirect, Dysgu Gydol Oes yn y DU, OCR Cymru, a Tribal Education.”
-------------------------------------Diwedd------------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. ColegauCymru yw'r elusen addysg cenedlaethol sy'n cynrychioli'r 21 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Cymrodd y seremoni wobrwyo le ar noson 26 Mai 2011 yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd.
3. Mae lluniau o’r enillwyr ar gael.
4. Dyma gategorïau Gwobrau ColegauCymru 2011 a’u noddwyr:
Gwobrau ar gyfer unigolion
- Dysgwr y flwyddyn (ColegauCymru)
- Athro/Athrawes y flwyddyn (Dysgu Gydol Oes yn y DU)
Gwobrau ar gyfer sefydliadau
- Defnydd effeithiol o’r Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru (CQFW) i gysylltu â chyflogwyr (Agored Cymru)
- Adnoddau Dysgu Digidol (CBAC/GCDC)
- Arweinyddiaeth effeithiol wrth gyflwyno sgiliau (City & Guilds/ILM)
- Ymarfer eithriadol wrth gynnal a gwella ansawdd (Tribal)
- Arloesedd wrth ymateb i lais y dysgwr (OCR Cymru)
- Defnydd eithriadol o dechnoleg (Learndirect)
- Defnydd arloesol o gynllunio’r cwricwlwm (Edexcel)