7 Ebrill 2011
Dyfarnu Medal y Canghellor i Bennaeth ColegauCymru
Mae’n bleser mawr gan GolegauCymru gyhoeddi bod Medal Canghellor Prifysgol Morgannwg wedi cael ei dyfarnu i’w Brif Weithredwr, Dr John Graystone, i gydnabod ei gyfraniad eithriadol i addysg.
Mae John Graystone wedi cael gyrfa nodedig ym meysydd addysg bellach ac uwch, gan arbenigo mewn datblygu polisi a llywodraethu colegau sy’n berthnasol i’r sector colegau yng Nghymru. Mae’n brif weithredwr ColegauCymru – y corff cenedlaethol sy’n cynrychioli pob coleg a sefydliad addysg bellach yng Nghymru – ers deng mlynedd.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd mawr i mi fod Prifysgol Morgannwg wedi dyfarnu Medal y Canghellor i mi. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r sector ôl-16 wedi wynebu llawer o heriau a phrif nod y partneriaethau sy’n datblygu rhwng addysg bellach ac addysg uwch yw sicrhau gwelliannau i ddysgwyr.
“Rwy’n arbennig o falch i gael y dyfarniad hwn oddi wrth Brifysgol Morgannwg sydd wedi cynnal partneriaethau agos yn gyson gyda cholegau addysg bellach ac sydd bob amser wedi ceisio diwallu anghenion ei chymunedau lleol o ran addysg a hyfforddiant.
“Rwy’n diolch i’r Canghellor ac i Fwrdd Cyflwyniadau Prifysgol Morgannwg am yr anrhydedd hwn ac yn edrych ymlaen at barhau â’r berthynas iach iawn sy’n cael ei datblygu rhwng y sectorau addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru.”
----------------------------------Diwedd------------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. ColegauCymru yw'r enw newydd ar fforwm. Elusen addysg cenedlaethol ydyw sy'n cynrychioli'r 21 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Cyflwynwyd Medal Canghellor Prifysgol Morgannwg i Dr Graystone gan y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Morris o Aberafan KG QC, Canghellor y Brifysgol, yng Nghyflwyniad Adroddiad Blynyddol y Brifysgol, a gynhaliwyd ar gampws y brifysgol yn Nhrefforest ar 4 Ebrill 2011.
-------------------------------------Ends--------------------------------------
Contact: Sylvia Davies on 029 2052 8384 or 07968 771913.
Notes to editors:
1. ColegauCymru / CollegesWales is the new name for fforwm. It is a national educational charity that represents all 21 further education (FE) colleges and institutions in Wales. Its mission is to raise the profile of further education with key decision-makers to improve opportunities for learners in Wales. For further information about ColegauCymru / CollegesWales, and the colleges it represents, visit www.colegaucymru.ac.uk or www.collegeswales.ac.uk
2. Dr Graystone was awarded the University of Glamorgan Chancellor’s Medal by the Rt Hon, the Lord Morris of Aberavon KG QC, Chancellor of the University, at the University’s Annual Report Presentation, which was held at the university’s Treforest Campus on 4 April 2011.