Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2012: I Fyny Bo'r Nod
Cynhelir cynhadledd flynyddol ColegauCymru: I Fyny Bo'r Nod, ar Ddydd Iau 31 Mai 2012 yn Venue Cymru, Llandudno.
Rydym wrth ein boddau cyhoeddi rhaglen y gynhadledd ar gyfer 2012.
Agorir y gynhadledd am 9.00yb ar gyfer ymrestriadau, rhwydweithio ac arddangosfeydd, a daw'r gynhadledd i ben am 4.30yp. Caiff y gynhadledd ei dilyn gan dderbyniad cyn cinio a'r Seremoni Wobrwyo.
Siaradwyr Allweddol
- Jeff Cuthbert, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Llywodraeth Cymru
- Mario Kreft MBE, Cyfarwyddwr Pendine Park Care Organisation
- Yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru
- John Hughes, Is-ganghello Prifysgol Bangor
Caiff pob cynadleddwr ddewis dau weithdy - un o bob grŵp:
Grŵp1
- Cynllunio, Ariannu a Rhaglenni Meysydd Dysgu
- Dysgu ac addysgu
- Chwaraeon: cymynrodd y Gemau Olympaidd
- Ymgysylltu â chyflogwyr
Grŵp2
- Dilyniant AB-AU
- Cyfleoedd rhyngwladol
- Llythrennedd a rhifedd
- Cyllido: Pwy Ddylai Dalu am Beth?
Cynhelir derbyniad cyn-cinio am 6.20pm, dan nawdd caredig Wesley Financial Services. Prif nodwedd y derbyniad yw cyflwyno dwy wobr:
- Myfyriwr Ymchwil y Flwyddyn yr MA Arweinyddiaeth a Rheolaeth (AB) Research - a gyflwynir gan Brifysgol Cymru, Casnewydd
- Gwobr Mynediad i Addysg Uwch - a gyflwynir gan Agored Cymru
Gwobrau ColegauCymru 2012
Y diweddglo ysblennydd yw Cinio'r Gynhadledd a'r Seremoni Wobrwyo, sy'n dechrau am 6.50yh.
Cliciwch am fanylion y gwobrau blynyddol.
Cynadleddau Blynyddol ColegauCymru a Gwobrau Blynyddoedd Cynt
Cliciwch yma am raglen a thrafodion cynadleddau blynyddol y gorffennol ac am wybodaeth bellach ar enillwyr y gwobrau diweddar.