04 Hydref 2011

Cymru ar y llwyfan yn WorldSkills

Mae WorldSkills, y gystadleuaeth sgiliau sy’n cyfateb i'r Gemau Olympaidd, neu i Pisa i bobl ifanc 18-25 oed, yn dod i'r Deyrnas Unedig eleni: yr wythnos hon, yn wir, 5-8 Hydref. A bydd Cymru'n chwarae rhan amlwg ar lwyfan y digwyddiad.

WorldSkills yw'r gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf yn y byd ac yn denu mwy na 50 o wledydd i gystadlu am fedalau mewn 46 o gategorïau. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac mae'n ffordd arbennig o amlwg a dwys o gydnabod y lefelau uchaf posibl o sgiliau galwedigaethol yn nhermau byd eang. 

Yn dilyn proses ddethol drwyadl trwy gyfres o rowndiau, cyrhaeddodd dau fyfyriwr coleg o Gymru y broses o ddethol Sgwad y Deyrnas Unedig. Aeth un ohonynt, David Bowen, myfyriwr 18 oed sy’n astudio dylunio gwefannau yng Ngholeg Sir Gâr, yr holl ffordd a dod yn aelod o Dîm y Deyrnas Unedig. Yng Nghanolfan ExCeL yn Llundain yr wythnos hon bydd yn cystadlu dros bedwar diwrnod yn erbyn y dylunwyr gwefannau gorau yn y byd o dan 25 oed. Bydd pwysau aruthrol arno.

Yn ogystal, mae hanner colegau Cymru wedi cael eu dewis i arddangos sgiliau penodol ar lwyfan sioe Wordskills. Mae'r nifer ddwywaith mor uchel ag y byddid yn ei disgwyl o wlad mor fach â Chymru ac mae'n dangos cystal mae Cymru'n ei gwneud wrth arddangos rhagoriaeth ym myd sgiliau.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru John Graystone: “Mae David Bowen wedi gwneud yn anhygoel o dda i gael ei ddewis i fod yn nhîm y Deyrnas Unedig ac yntau dim ond yn 18 oed.  Mae wedi gweithio'n galed iawn i fireinio ei sgiliau trwy'r gyfres hir o rowndiau a chystadlaethau ar draws y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt yn y cyfnod cyn Wordskills, ac ar yr un pryd wedi parhau i astudio ar gyfer ei Ddiploma Cenedlaethol yng Ngholeg Sir Gâr.  Mae'n haeddu ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau ar gyfer y gystadleuaeth yn erbyn y gorau yn y byd yr wythnos hon. 

“Hefyd, rwyf wrth fy modd i gydnabod bod colegau Cymru wedi gwneud yn llawer gwell nag y byddid yn disgwyl wrth gael eu dewis i arddangos amrywiaeth o sgiliau galwedigaethol i'r 150,000 o bobl yng nghynulleidfa Wordskills. Bydd deg coleg yn perfformio deuddeg arddangosiad gan gynnwys celfyddydau coginio, blodeuyddiaeth, bwrw haearn, adeiladu cychod yn broffesiynol, celfyddydau perfformio, crefftau cefn gwlad traddodiadol a sgiliau gwyrdd. Camp enfawr yw hon ac mae’n dangos i'r byd cystal mae Cymru'n ei gwneud o ran codi lefelau sgiliau ei phobl ifanc."

Un o'r arddangosiadau yw sioe ar lwyfan modelau sy’n arddangos creadigaethau blodeuol hynod drawiadol gan fyfyrwyr Coleg Llaneurgain. Dywedodd Pennaeth Rhaglenni Blodeuyddiaeth y coleg, Paul Raven: "Mae hwn yn gyfle i’n myfyrwyr sy'n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth. Rydym wrth ein bodd y bydd y safonau rhagorol mae ein myfyrwyr yn eu cyflawni yn cael eu harddangos mewn digwyddiad rhyngwladol mor fawreddog. Mae bod yn rhan o ddigwyddiad sy'n cydnabod sgiliau ar y lefel uchaf posibl yn ysgogi’r myfyrwyr i anelu’n uwch ac mae gen i bob ffydd y bydd ein myfyrwyr yn ateb y galw ac yn helpu i greu sioe fydd yn ysbrydoli pawb.”
 
Dywedodd Aidan Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol WorldSkills Llundain 2011: “Mae'r amrywiaeth enfawr o syniadau am arddangosiadau a ddaeth i mewn yn un llif o golegau ledled y Deyrnas Unedig yn arbennig o wefreiddiol. Gyda 150,000 o ymwelwyr i Gystadleuaeth WordSkills Llundain 2011, bydd y llwyfannau'n arddangos yr amrywiaeth fwyaf posibl o sgiliau sy'n siapio ein byd a byddant yn rhan hynod o gyffrous o'r arddangosfa fwyaf, fwyaf ysbrydoledig a gweledol o yrfaoedd a welwyd yn y Deyrnas Unedig erioed - i gyd o dan un to!”

--------------------------------Diwedd------------------------------------

Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:

1. Adwaenwyd ColegauCymru / CollegesWales gynt yn fforwm. Elusen addysgol genedlaethol ydyw sy’n cynrychioli pob un o’r 20 coleg ac athrofa addysg bellach (AB)  yng Nghymru. Ei fwriad yw codi proffil addysg bellach gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol i wella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth am ColegauCymru a’r colegau mae’n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk neu www.collegeswales.ac.uk

2. Mae'r rhaglen lawn o arddangosfeydd, gweithdai a pherfformiadau gan golegau Cymru yn WorldSkills ar gael o http://bit.ly/qmHpyA

3. Mae Coleg Llaneurgain yn ran o Grŵp Colegau Glannau Dyfrdwy.

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500