23 Ionawr 2012
Cyhoeddi Cystadleuaeth am Ragoriaeth mewn Addysg Bellach
Disgwylir cystadlu brwd rhwng colegau addysg bellach eleni eto wrth i gategorïau Gwobrau ColegauCymru 2012 agor i geisiadau.
Mae’r gwobrau’n adnabod a dathlu rhagoriaeth mewn addysg bellach. Maent yn cynnig cyfle i arddangos rhagoriaeth ac arfer orau ar draws ystod eang o feysydd ac maent yn ffurfio rhan o waith ColegauCymru i godi safonau drwy hunan reoleiddio.
Y gwobrau ar gyfer colegau a sefydliadau addysg bellach yw:
- Addysgu a Dysgu
- Buddsoddi mewn datblygiad staff
- Addysg Uwch mewn Addysg Bellach
- Llywodraethu
- Hyrwyddo dysgu cynhwysol
- Partneriaethau o Ansawdd
Yn ogystal, cynigir dwy wobr i adnabod dysgu ac addysgu ardderchog gan unigolion:
- Athro/Athrawes y Flwyddyn
- Dysgwr y Flwyddyn.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflawniad rhagorol, yn tynnu sylw at ehangder y ddarpariaeth mewn sefydliadau addysg bellach ac yn cydnabod y cydweithredu rhwng sefydliadau a chyrff eraill.
“Mae ColegauCymru yn falch iawn o dderbyn nawdd am y gwobrau oddi wrth nifer o gyrff dylanwadol. Maen nhw i gyd yn cydnabod y cystadlu brwd am y gwobrau, ac maent yn gweld y gwobrau yn symbyliad i wella ansawdd ar draws y sector gyfan. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r noddwyr am eu cefnogaeth.”
Bydd seremoni i gyhoeddi’r buddugwyr yn cael ei gynnal yn ystod cinio Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru ar 31 Mai 2012 yn Llandudno.
---------------------------------Diwedd-------------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. Elusen addysgiadol genedlaethol yw ColegauCymru sy’n cynrychioli pob un o’r 20 o golegau a sefydliadau addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ac i wella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar ColegauCymru a’r colegau mae’n eu cynrychioli, gweler www.colegaucymru.ac.uk
2. Cliciwch am fanylion y gwobrau a ffurflen gais.
3. Noddwyr Gwobrau 2012:
- Agored Cymru
- City & Guilds/Institute of Leadership & Management (ILM)
- ColegauCymru
- Edexcel
- Llywodraeth Cymru
- OCR
- RSC Wales
- Tribal Education
4. Bydd y paneli sydd yn barnu’r ceisiadau ar gyfer Gwobrau ColegauCymru 2012 yn cynnwys staff uwch o gyrff dylanwadol gan gynnwys y noddwyr.
5. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 27 Chwefror 2012. Cynhelir y Seremoni Wobrwyo ar 31 Mai 2012 yn Venue Cymru, Llandudno. Mae’r seremoni yn cloi Cynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2012.
6. I noddi’r gynhadledd flynyddol neu i arddangos, cysylltwch â Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu ebostiwch Sylvia.davies@colegaucymru.ac.uk