2 Tachwedd 2011

Consortiwm Addysg Cymru-Tsieina yn Elwa ar Ymweliad Tsieinead
Mae Consortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing yn croesawu Grace Tan, sydd newydd ei chyflogi, i Gymru ar ei thaith frysiog o golegau’r wythnos hon, yn dilyn lansiad swyddogol y Consortiwm gan Brif Weinidog Cymru yn Tsieina yr wythnos diwethaf.
Cyflogir Grace Tan gan CollegesWales (UK) International i gynrychioli’r Consortiwm Addysg Bellach (AB) yn Chongqing. Bydd hi’n rhoi parhad a momentwm i bartneriaethau sydd eisoes yn bodoli rhwng colegau yng Nghymru a’u cymheiriaid yn Chongqing ac yn gweithio fel catalydd i ddatblygu partneriaethau newydd a fydd o les i’r ddwy wlad fel ei gilydd.
Dywedodd Cadeirydd y Consortiwm AB, Mr Bryn Davies: “Mae gan Grace Tan gymwysterau dilychwin, gyda gradd anrhydedd o Brifysgol ym Mhrydain ac wedi gweithio’n ddiweddar fel uwch swyddog masnach a buddsoddi i Fasnach a Buddsoddi y DU - sy’n rhan o Swyddfa Prif Gonswl Prydain yn Chongqing. Yno, helpodd gwmnïau’r DU i ehangu eu busnes yn Ne Orllewin Tsieina.
"Dim ond yn ddiweddar y mae Grace wedi ymuno â Chonsortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing ond mae eisoes yn profi i fod yn gaffaeliad gwych. Mae ei sgiliau cyfathrebu a threfniadol eisoes wedi’u defnyddio’n dda wrth drefnu lansiad swyddogol y Consortiwm yn Tsieina ac wrth gyflwyno’r Consortiwm i asiantau addysg yn Tsieina."
Mae nodau Consortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing yn cynnwys defnyddio arbenigedd colegau yng Nghymru i gynorthwyo yn y gwaith uchelgeisiol o ehangu economaidd a chymdeithasol Chongqing trwy ddarparu hyfforddiant perthnasol, cyrsiau wedi’u teilwra a chymorth ymgynghorol.
Mae disgwyl i ddysgwyr Cymru hefyd elwa ar y Consortiwm. Mae gan Gymru a Chongqing dipyn i’w dysgu wrth ei gilydd. Y prif ffocws ar gyfer Chongqing yw codi lefelau sgiliau ei weithlu sy’n cynnwys ei boblogaeth ymfudol gynyddol. Y prif ffocws i Gymru yw sefydlu cyfeiriad meddwl rhyngwladol ymhlith ein dysgwyr, ehangu eu gorwelion a gwella’u cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru ac yn y farchnad fyd-eang.
Mae’r prif flaenoriaethau i’r Consortiwm yn cynnwys:
- Cyfnewidiau diwylliannol rhwng myfyrwyr yng Nghymru a Tsieina
- Dewisiadau astudio rhyngwladol
- Gwaith gyda chymheiriaid mewn colegau yn Chongqing i gryfhau systemau sicrhau ansawdd a datblygu arbenigeddau’r cwricwlwm
- Archwilio’r potensial ar gyfer hyfforddiant corfforaethol mewn cwmni ac uwchsgilio gweithwyr a thechnegwyr ymfudol yn Chongqing sy’n cyflym ddatblygu.
Dywedodd Grace Tan: “Dyma fy ymweliad cyntaf â Chymru ac rydw i ar ben fy nigon gyda’r croeso twymgalon rydw i wedi’i gael! Rwy’n falch o fod wedi gallu ymweld â phob un o’r un coleg ar ddeg o bob cwr o Gymru sy’n rhan o Gonsortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing. Mae’n golygu taith eithriadol o brysur ledled y wlad, ond ceir brwdfrydedd rhyfeddol a momentwm ynghylch y Consortiwm sy’n ei wneud yn hynod werth chweil.
"Mae’r Consortiwm yn ddatblygiad cyffrous sy’n dod â chydlyniad a ffocws ar Gymru i gynulleidfa Tsieineaidd. Mae’r Consortiwm yn agor ffenestr newydd gyfan o gyfleoedd ac arbenigedd i’w chynulleidfa yn Chongqing, sy’n cwmpasu Safonau Uwch, y Fagloriaeth Ryngwladol, arbenigeddau technegol ac arbenigedd mewn gweithio gyda busnesau.
“Yn ogystal, o gofio mai Chongqing yw un o’r dinasoedd cyflymaf ei thwf yn y byd, bydd y Consortiwm hefyd yn ffordd o danio brwdfrydedd myfyrwyr o Gymru i gofleidio heriau economi fyd-eang.”
------------------------------Diwedd-----------------------------------
Cyswllt y cyfryngau: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau:
1. Mae ColegauCymru yn cynrychioli pob un o golegau addysg bellach Cymru. Mae'n elusen addysgiadol ac yn gwmni wedi ei gyfyngu trwy warant.
2. Mae CollegesWales (UK) International yn ran o GolegauCymru. Ei bwrpas yw i weithio gyda gwledydd eraill er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr, i ehangu eu gorwelion ac i godi eu dyheadau.
3.Yn 2011, bu i 11 o golegau addysg bellach Cymru ffurfio Consortiwm Addysg Bellach Cymru-Chongqing sy'n rhan o CollegesWales (UK) International.
4. Y sefydliadau addysg bellach sy'n ffurfio'r consortiwm yw:
- Coleg Penybont
- Coleg Caerdydd a'r Fro
- Coleg Gwent
- Coleg Llandrillo Cymru
- Coleg Harlech WEA (N) and WEA (S)
- Coleg Morgannwg
- Coleg Powys
- Coleg Glannau Dyfrdwy
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Coleg Iâl Wrecsam
- Coleg Ystrad Mynach
5. Mae'r Consortiwm yn cyflogi siaradwr Mandarin, Grace Tan, sydd wedi ei lleoli yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Chonging: Wales Government Office, Room 2808, Metropolitan Tower, Zourong Road, Central District, Chongqing 400010, P.R. China.
6. Yn y llun: Cadeirydd y Consortiwm, Bryn Davies; Swyddog y Consortiwm yn Tsieina, Grace Tan; Swyddog Rhyngwladol ColegauCymru, Sian Holleran.