13 Ebrill 2011
Colegau’n buddsoddi mewn sgiliau Cymraeg
Mae ColegauCymru yn creu swydd newydd lefel uwch i gynyddu’r sgiliau Cymraeg y mae colegau a’u myfyrwyr yn ogystal â chyflogwyr yn galw amdanynt.
Swydd Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau sydd â’r nod o alluogi colegau addysg bellach i feithrin eu gallu i gynnig darpariaeth sgiliau Cymraeg.
Dan arweiniad ColegauCymru, mae pob coleg addysg bellach wedi mabwysiadu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Dwyieithrwydd mewn Addysg Bellach. Yn ystod 2010, cynorthwyodd ColegauCymru golegau wrth iddynt roi’r Strategaeth ar waith gyda datrysiadau wedi’u teilwra, sy’n adlewyrchu gwahanol anghenion eu cymunedau lleol.
Hefyd mae ColegauCymru wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i wella’r ffordd y caiff datblygu sgiliau Cymraeg ei fesur a’i fonitro heb ychwanegu mwy o fân reolau.
Yn awr mae ColegauCymru yn creu swydd benodol i sicrhau bod ymdrechion y colegau’n cael eu cefnogi’n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Mae tasgau allweddol y Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd yn cynnwys:
- gwella argaeledd cymwysterau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg
- meithrin gallu athrawon i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg ôl-14 ac ôl-16, yn enwedig mewn meysydd arbenigol galwedigaethol a thechnegol
- helpu dysgwyr i barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg wrth iddynt symud ymlaen o un math o ddarparwr i un arall.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Mae colegau ar draws Cymru’n dangos eu hymrwymiad cryf i ddatblygu cenedl ddwyieithog. Bob blwyddyn mae colegau’n datblygu mwy o adnoddau ac yn cyflenwi mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, i’w myfyrwyr eu hunain a hefyd i ddisgyblion ysgolion trwy eu partneriaethau cyswllt ag ysgolion. Hefyd, roeddent yn awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle a gododd yn ddiweddar i wneud cais am gymorth ariannol i gyflogi un o bedwar Hyrwyddwr Dwyieithrwydd newydd ar gyfer addysg bellach.”
Mae symud ymlaen o’r ysgol i’r coleg, o’r coleg i’r brifysgol ac o’r coleg i’r gweithle’n un o’r prif faterion o bwys i ddysgwyr sydd eisiau datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Aeth Dr Graystone ymlaen: “Tasg y Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd fydd gweithio gyda holl bartneriaid allweddol y colegau, gan gynnwys ysgolion, sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr.
“Mae’r colegau eisoes wedi dechrau cydweithio’n agosach gyda’r sector addysg uwch ac rwyf wrth fy modd bod Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnwys dau a benodwyd o’r sector addysg bellach. Hoffwn longyfarch yr un ar ddeg dysgwr o golegau addysg bellach sydd wedi llwyddo gyda’u ceisiadau am y gyfran gyntaf o ysgoloriaethau a gynigiwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch.
“Mae’r sector addysg bellach yn adnabyddus am ei ddyfeisgarwch a’i hyblygrwydd. Mae swydd y Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd yn un bwysig iawn sy’n rhan o ymateb y sector addysg bellach i’r angen i wella addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.”
-------------------------------------Diwedd------------------------------------
Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. Enw blaenorol ColegauCymru oedd fforwm. Elusen addysgol genedlaethol ydyw sy’n cynrychioli pob un o’r 21 o golegau a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Ei chenhadaeth yw codi proffil addysg bellach gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth am GolegauCymru a’r colegau mae’n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk
2. Mae mwy o wybodaeth a phecyn cais am swydd Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd ar gael o http://bit.ly/hqgOBi Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4 Mai 2011.
3. Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Dwyieithrwydd mewn Addysg Bellach ar gael o http://www.colegaucymru.ac.uk/cyhoeddiadau-24.aspx
4. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol am y tair blynedd nesaf ar gyfer penodi pedwar Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn y colegau canlynol:
- Coleg Iâl, Wrecsam
- Coleg Ceredigion
- Coleg Glan Hafren/Coleg y Barri/Coleg Cymunedol YMCA/WEA(S)
- Coleg Gwent
5. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r holl Hyrwyddwyr Dwyieithog ac hefyd gyda chanolfan Sgiliaith sy’n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth datblygu dwyieithrwydd i golegau addysg bellach.
6. Mae’r rhai a benodwyd i Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnwys Dr Ian Rees, Is-Bennaeth Coleg Llandrillo Cymru, a Linda Wyn, Is-Bennaeth Coleg Menai.
7. Mae’r rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael o http://bit.ly/hIxn2g