2 Chwefror 2011
Colegau yn Croesawu Ymrwymiadau'r Gweinidog
Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu araith y Gweinidog Addysg ar ddyfodol addysg yng Nghymru: “Mae Addysg yn Gwneud Gwahaniaeth”.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae colegau wedi tynnu sylw at eu gofid bod canran y dysgwyr sy’n cyrraedd coleg addysg bellach â thrafferthion mewn sgiliau sylfaenol yn fwy na’r disgwyl. Roedd colegau yn falch clywed yn yr araith heddiw bod y Gweinidog Addysg yn bwriadu rhoi ffocws penodol ar sgiliau sylfaenol, ac ar lythrennedd a rhifedd yn benodol.
Yn ogystal, bu i’r colegau groesawu ymrwymiad digamsyniol y Gweinidog i ddarparu mwy o gyfleoedd galwedigaethol i ddysgwyr oed 14 ac 16, a bod angen cyflawni’r estyniad yn y cwricwlwm drwy bartneriaethau yn hytrach na thrwy chystadleuaeth.
Dywedodd Dr John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Rydyn ni’n falch bod y Gweinidog Addysg wedi atgyfnerthu ei ymrwymiad i ehangu cyfleoedd galwedigaethol i ddysgwyr oed 14 ac 16 trwy ddisgwyl i ddarparwyr addysg weithio mewn partneriaethau effeithiol.”
I gloi, dywedodd Dr John Graystone: “Mae colegau yn awyddus i gydweithio â’r llywodraeth, awdurdodau lleol ac ysgolion wrth fynd i’r afael â’r agenda holl-bwysig hwn. Rydyn ni i gyd yn rhannu’r gred am yr angen i gyflawni ac i gynnal safonau uchel ac rydyn ni i gyd ym ymrwymedig i Gymru fel ‘y wlad sy’n dysgu’.”
--------------------------------Diwedd-----------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
- Elusen addysgiadol genedlaethol yw ColegauCymru sy’n cynrychioli pob un o’r 21 o golegau a sefydliadau addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ac i wella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar ColegauCymru a’r colegau mae’n eu cynrychioli, gweler www.colegaucymru.ac.uk
- Bu i Leighton Andrews AC, Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru draddodi araith dan y teitl “Mae Addysg yn Gwneud Gwahaniaeth” ar 2 Chwefror 2011 yn Theatr Reardon Smith, Caerdydd. Ceir copi o'r araith o: http://wales.gov.uk/newsroom/educationandskills/2011/110202education/?skip=1&lang=cy