18 Awst 2011
Canlyniadau lefel A ardderchog yng Ngholegau Cymru
Mae’r gyfradd lwyddo yn arholiadau lefel A yn ogystal â’r gyfradd lwyddo uwch A*-C mewn nifer o golegau addysg bellach yng Nghymru cryn dipyn yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig ac mae rhai unigolion wedi cael canlyniadau gwirioneddol anhygoel, gan gynnwys pum A* i un myfyriwr gwyddoniaeth.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Sir Gâr, Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Sir Benfro a Choleg Castell Nedd Port Talbot i gyd wedi cael cyfraddau llwyddo ar y graddau uwch A*-C sydd gryn dipyn yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, sef 76.2%. Yng Ngholeg Menai, mae 82% o’i ymgeisiadau, canran nodedig iawn, wedi cael graddau A*-C.
Yn ei Raglen Anrhydedd i’w fyfyrwyr dawnus a thalentog, cafodd Coleg Catholig Dewi Sant ganlyniadau syfrdanol o dda. Cafodd 61% o’r myfyrwyr radd A* neu A, a chafodd 82% raddau A*-B ar lefel A2. Mae pum myfyriwr o’r coleg wedi llwyddo i gael eu derbyn i Rydychen neu Gaergrawnt. Hefyd yn mynd i Rydychen a Chaergrawnt bydd:
- y cyw beirianwraig Emily McAllister o Goleg Castell Nedd Port Talbot a gafodd 3 gradd A*
- Ben Jones, myfyriwr aeddfed 23 oed o Goleg Gŵyr Abertawe a fydd, diolch i’w raddau A*AA, yn mynd i Gaergrawnt i astudio Addysg a Hanes
- Curtis Bonnell o Goleg Gŵyr Abertawe, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun y Strade, y mae ei raddau A*A*A*A* wedi diogelu lle iddo yng Nghaergrawnt i astudio Gwyddorau Naturiol
- James Preece o Goleg Glannau Dyfrdwy, sydd eisiau bod yn fargyfreithiwr, ac sydd, diolch i’w lefelau A yn y Gyfraith, Mathemateg, Seicoleg a Ffiseg, wedi cael lle ym Mhrifysgol Caergrawnt
- Sheena Loeffel o Goleg Sir Gâr sydd wedi cael 4 lefel A ac a fydd yn mynd i Rydychen i astudio Cemeg
- Mared Gwyn Jones o Goleg Llandrillo fydd yn astudio Ieithoedd Modern yng Nghaergrawnt
- Tamara Williams o Goleg Iâl sydd wedi cael tair gradd A* ac felly wedi sicrhau lle yng Nghaergrawnt i astudio Gwyddorau Naturiol.
Mae nifer o fyfyrwyr hefyd yn mynd i golegau meddygol, gan gynnwys Jessica Roberts o Goleg Iâl Wrecsam, Stefan Merrix o Goleg Sir Benfro, a Luke Treharne, capten tîm rygbi hynod lwyddiannus Coleg Sir Gâr. Ond mae’n amlwg bod y gystadleuaeth am leoedd yn gryf, oherwydd mae un myfyriwr disglair iawn o Goleg Menai sydd wedi cael pedair gradd A* wedi methu â sicrhau lle mewn ysgol feddygol.
Mae teuluoedd dawnus yn amlwg eleni. Cafodd yr efeilliaid Freya a Portia Rees-Jones o Goleg Gŵyr Abertawe A*AA yn yr un pynciau, sef Cemeg, Mathemateg a Bioleg. Ac mae dwy chwaer o Goleg Iâl Wrecsam a’u mam i gyd ar fin ennill bri yn y sector peirianyddol, lle mae dynion, gan fwyaf, yn gweithio. Mae Zara Sheady yn mynd i astudio Peirianneg Awyrennol ym Mhrifysgol Abertawe, mae ei chwaer iau Rhian yn mynd i Brifysgol Nottingham i astudio peirianneg sifil, a chafodd eu mam Sharon ei henwi’n brentis y flwyddyn eleni ac mae’n cael ei noddi i fynd i weithio yn Wganda i adnewyddu ysgolion.
Gan sicrhau cefnogaeth gref i’r holl ystod o ymgeiswyr lefel A, mae prif gampws Coleg Gwent ar gyfer lefelau A yn Crosskeys wedi cael cyfradd lwyddo o 99.4% ar gyfer graddau A*-E ac mae Coleg Castell Nedd Port Talbot yn dathlu cyfradd lwyddo o fwy na 99% am y chweched flwyddyn yn olynol. Yn 44 o’r pynciau lefel A a gynigir yng Ngholeg Gwent cafwyd cyfradd lwyddo o 100%, a chafwyd yr un gyfradd mewn 42 o bynciau yng Ngholeg Castell Nedd Port Talbot ac mewn 36 o bynciau yng Ngholeg Llandrillo.
Mae colegau wedi cynorthwyo’r myfyrwyr 16-18 oed traddodiadol sy’n astudio amser llawn ar gyfer lefelau A, yn ogystal â myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ail gyfle, i sicrhau llwyddiannau personol gwych. Er enghraifft:
- Gadawodd Hywel Phillips, a wirfoddolodd yn Rhyfel Kosovo, yr ysgol yn 17 oed ar ôl llwyddo yn ei holl arholiadau TGAU ond heb fod â’r cymhelliad i lwyddo yn y chweched dosbarth. Mae’n 22 oed erbyn hyn, ac wrth ei fodd ei fod wedi penderfynu ymrestru yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro dwy flynedd yn ôl. Bellach mae ar fin dilyn yn olion traed ei dad a’i dad-cu trwy astudio Cemeg yn y brifysgol, gan ddechrau gyda chwrs MChem pedair blynedd ym Mhrifysgol Southampton.
- Daeth Isaac Mangala, a anwyd yn Zambia, i Gymru gyda’i deulu yn 2003 yn un ar ddeg oed. Yn ddigon dealladwy roedd yn siomedig pan na wnaeth cystal â’r disgwyl yn ei arholiadau TGAU. Erbyn hyn, ar ôl ail sefyll arholiadau TGAU a dilyn cwrs carlam at lefel A yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, ac ar yr un pryd ennill cyflog i ariannu ei astudiaethau, mae’r llanc 18 oed yn gobeithio astudio Cyfrifiadureg yn y brifysgol.
- Roedd Claire Gilder, sy’n 37 oed, wedi gadael yr ysgol ar ôl arholiadau TGAU ac yna ymrwymodd i fod yn fam ac ni chafodd yr amser i ddatblygu gyrfa. Pan ddilëwyd ei swydd dwy flynedd yn ôl, ymrestrodd i wneud tair lefel A yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy. Bellach mae’n edrych ymlaen at ddechrau cwrs gradd yn Saesneg a’i huchelgais yw bod yn athrawes.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Mae’n destun balchder mawr i allu dweud bod y gyfradd lwyddo yn yr arholiadau lefel A mewn cynifer o golegau yng Nghymru’n well na chyfartaledd y Deyrnas Unedig o ran graddau A*-E yn ogystal â’r graddau uwch A*-C. Mae ychydig o golegau’n ddarparwyr lefel A arbennig o fawr, sy’n rhoi arwyddocâd cenedlaethol i’r canlyniadau rhagorol hyn. Roedd 1,834 o ymgeisiadau ar gyfer lefel A yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, 1,121 yng Ngholeg Castell Nedd Port Talbot a 925 yng Ngholeg Gwent.
"Mae’r colegau trydyddol mwyaf wedi dangos bod eu myfyrwyr talentog yn cyflawni canlyniadau gyda’r goreuon. Cafodd nifer o fyfyrwyr o leiaf tair gradd A; 22 o Goleg Iâl Wrecsam, 21 o fyfyrwyr o Goleg Gwent a 18 o fyfyrwyr o Goleg Castell Nedd Port Talbot, gan gynnwys un, Reuben Maclean Quin, a gafodd bum gradd A*, sy’n gamp nodedig.
“Rwyf wrth fy modd i longyfarch y myfyrwyr â’r perfformiadau gorau sy’n mynd i’r prifysgolion uchaf eu parch. Rwy’n arbennig o falch dros y myfyrwyr hynny sydd wedi cael canlyniadau llai syfrdanol ar lefel genedlaethol ond oedd serch hynny y tu hwnt i’w dychymyg pan aethant i’r coleg yn gyntaf. Mae llawer oedd wedi gadael yr ysgol gyda chanlyniadau gwael neu ddigon cyffredin ac oedd yn ofni cael eu hystyried yn fethiannau wedi gweddnewid eu bywydau trwy ymrestru mewn coleg, gweithio’n galed, cael canlyniadau cryf yn yr arholiadau lefel A a sicrhau lle mewn prifysgol.
“Rwy’n llongyfarch yn ddiffuant y myfyrwyr a’u hathrawon a’r staff yn y colegau ar draws Cymru sydd wedi’u cynorthwyo i lwyddo yn yr arholiadau lefel A ac AS ac, wrth gwrs, Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru, lle mae’r canlyniadau heddiw hefyd yn well nag erioed o’r blaen.”
------------------------------------Diwedd---------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. Adwaenir ColegauCymru gynt yn fforwm. Elusen addysg cenedlaethol ydyw sy'n cynrychioli'r 21 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Manylion cyswllt y colegau a enwir y datganiad hwn:
- Coleg Gwent: Kim Spurr Ff: 01495 333507 S: 0772 0380545
- Coleg Castell Nedd Port Talbot: Fay Harris Ff: 01639 648006
- Coleg Sir Gâr: Amanda Rees Ff: 01554 748118
- Coleg Gŵyr Abertawe: Allison Lowe Ff: 01792 284262
- Coleg Caerdydd a’r Fro: Ffion Chard Ff: 029 20250250 Est. 3442 S: 07904229169
- Coleg Glannau Dyfrdwy: Claire Nicholson neu Vicky Barwis Ff: 01244 834531 S: 07889820631
- Coleg Sir Benfro: Geoff Elliott neu Charlie Royal Ff: 01437 753100 neu 01437 753148
- Coleg Catholig Dewi Sant: Alwyn Lloyd Ff: 029 2043 1879
- Coleg Menai: Carl Mather T: 01248 383324
- Coleg Iâl Wrecsam: Jane Rayner S: 07904 125 924 neu Angela Witter Ff: 01978 317321 ext 2033
- Coleg Llandrillo: Nick Hill Ff: 01492 546666 est 484