07/06/2011
Cadeirydd Newydd i GolegauCymru
Mae David Jones, pennaeth Coleg Glannau Dyfrdwy, wedi cael ei benodi’n Gadeirydd ColegauCymru.
Ers iddo gael ei benodi’n bennaeth a phrif weithredwr Coleg Glannau Dyfrdwy saith mlynedd yn ôl, mae’r coleg wedi cael ei weddnewid. Dyfarnwyd iddo’r graddau uchaf posibl gan Estyn – Arolygiaeth Ei Mawrhydi – am ei holl ddarpariaeth addysg bellach yn ogystal â’i ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith: y coleg cyntaf yng Nghymru i gyflawni hyn. Mae’r coleg hefyd yn tyfu ac yn buddsoddi ac yn darparu ar gyfer mwy a mwy o fyfyrwyr. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r coleg wedi uno gyda dau goleg tir, a bellach mae Grŵp Colegau Coleg Glannau Dyfrdwy yn cynnwys Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Llaneurgain, Coleg Llysfasi a Hyfforddiant Wrecsam.
Mae ymrwymiad David i ansawdd wedi peri i’r coleg ennill Gwobr Ansawdd Cymru a Sefydliad Ewropeaidd er Rheoli Ansawdd (EFQM) ac iddo gadeirio Grŵp ColegauCymru ar Wella Ansawdd a Lleihau Biwrocratiaeth. Bedair blynedd yn ôl, enillodd David Wobr Arwain Cymru i Arweinydd yn y Sector Cyhoeddus.
Bu David, sy’n frwd o blaid y Gymraeg a diwylliant Cymru, yn ddylanwad sylweddol ar ddatblygu a mabwysiadu Strategaeth Genedlaethol ColegauCymru dros Ddwyieithrwydd mewn Addysg Bellach.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Rwyf wrth fy modd mai David Jones yw Cadeirydd newydd ColegauCymru. Mae David yn arweinydd cryf, mae e’n ddynamig ac yn barod bob amser i herio’r sefyllfa bresennol, gan geisio sicrhau rhagoriaeth yn ddi-baid.
"Mae’n dechrau yn y swydd dwy flynedd hon ar adeg gyffrous i addysg a hyfforddiant ôl-16. Mae colegau’n wynebu llawer o heriau wrth ehangu mynediad, codi safonau, cyfrannu at les cymdeithasol ac economaidd Cymru a gwella’r ffordd y darperir dysgu’n ddwyieithog a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda David wrth ymateb i’r heriau hyn”.
Meddai David Jones: “Mae’n bleser ac yn fraint i mi gael y cyfle i gadeirio ColegauCymru. Fy mlaenoriaeth dros y ddwy flynedd nesaf fydd gweithio gyda John Graystone a thîm ColegauCymru, Aelodau’r Bwrdd a Phenaethiaid colegau i adeiladu ar y gwaith rhagorol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae angen i ni sicrhau bod holl sector colegau addysg bellach yn parhau i wella, a chodi safonau, wrth i ni i gyd ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth yn ein colegau unigol, ac adeiladu ar statws ColegauCymru fel llais addysg bellach yng Nghymru”.
----------------------------------Diwedd-----------------------------------
Cyswllt: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. ColegauCymru yw'r elusen addysg cenedlaethol sy'n cynrychioli'r 21 coleg addysg bellach (AB) a’r dau sefydliad AB yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru ar colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Apwyntiwyd David Jones yn Gadeirydd ColegauCymru yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 25 Mai 2011 yng Ngwesty'r Hilton Caerdydd. Ceir mwy o wybodaeth ar gyfansoddiad y Bwrdd o: http://www.colegaucymru.ac.uk/en-GB/the_board-10.aspx
3. Am wybodaeth ar wobrau Leading Wales ewch at: http://www.leadingwalesawards.com/
4. Am wybodaeth ar Grŵp Colegau Coleg Glannau Dyfrdwy ewch at: http://www.deeside.ac.uk