Arian am Oes – Dau gymhwyster newydd
Mae rhaglen Arian am Oes yn cynnig dau gymhwyster newydd mewn gallu ariannol i oedolion, a achredir gan Rwydwaith y Coleg Agored (RhCA). Achredir y rhaglenni yn llawn.
Teach Me
- Ydych chi’n edrych i wella’ch gwybodaeth am allu ariannol?
- Hoffech deimlo’n hyderus yn y cymorth a rowch i ddysgwyr?
|
 |
- Hoffech deimlo fod gennych ddealltwriaeth dda o amrywiaeth o bynciau gallu ariannol craidd, goblygiadau eithrio ariannol a ffynonellau cyngor a chymorth?
|
Cwrs ar-lein yw Teach Me y gallwch ei gwblhau mewn prin 30 awr ac mae’n addas i unrhyw un sy’n edrych i wella’u gallu ariannol. Mae’n hynod briodol i ymarferwyr addysg bellach, athrawon a gweithwyr cymunedol.
Cliciwch yma am wybodaeth ac i gofrestru
Teach Others
 |
- Ydych chi eisiau gallu addysgu dysgwyr i ddeall arian?
- Ydych chi eisiau iddynt gael y sgiliau i reoli eu harian yn well?
|
Nod y cwrs byr hwn yw galluogi’r sawl sy’n gweithio mewn swyddi heb fod yn swyddi addysgu mewn addysg bellach, canolfannau allgymorth ac asiantaethau allanol yn y gymuned i allu addysgu gallu ariannol i bobl eraill.
Trwy ddilyn y cwrs, byddwch yn cael:
- sgiliau hwyluso sylfaenol
- yr hyder i gyflwyno rhaglenni neu weithdai byrion
- cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
Cliciwch yma am wybodaeth ac i gofrestru
Gwybodaeth bellach
Rydym yn cynnig lleoedd wedi’u hariannu’n llawn ar y cwrs hwn fel rhan o raglen Arian am Oes. Cysylltwch â Julia Owens am wybodaeth bellach.