25 Gorffennaf 2011
Apwyntiad Newydd i Arwain Datblygiadau’r Iaith Gymraeg mewn Colegau
Mae ColegauCymru wedi apwyntio Catrin Stephens i’r swydd newydd Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd.
Bydd Catrin yn sicrhau ymdrechion colegau addysg bellach i feithrin eu gallu i gynnig darpariaeth sgiliau Cymraeg ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Ei phrif ffocws fydd arwain y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Dwyieithrwydd mewn Addysg Bellach, a ddatblygwyd gan GolegauCymru ac a fabwysiadwyd gan holl golegau AB y llynedd.
Daw Catrin i GolegauCymru ar ôl gweithio am chwe blynedd i gwmni Acen – cwmni elusennol sy’n darparu adnoddau dysgu Cymraeg a hyfforddiant iaith Gymraeg yn y gweithle, lle roedd hi’n Bennaeth Cynnwys a Marchnata, gyda phrif gyfrifoldeb dros gynnwys gwefan dysgwyr S4C.
Dwedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, John Graystone: “Mae symud ymlaen o’r ysgol i’r coleg, o’r coleg i’r brifysgol ac o’r coleg i’r gweithle’n un o’r prif faterion o bwys i ddysgwyr sydd eisiau datblygu eu sgiliau Cymraeg.
“Bob blwyddyn mae colegau’n datblygu mwy o adnoddau ac yn cyflenwi mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, i’w myfyrwyr eu hunain a hefyd i ddisgyblion ysgolion trwy eu partneriaethau cyswllt ag ysgolion. Hefyd, roeddent yn awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle a gododd yn ddiweddar i wneud cais am gymorth ariannol i gyflogi un o bedwar Hyrwyddwr Dwyieithrwydd newydd ar gyfer addysg bellach.
“Mae’r Colegau yn chwilio’n ddi-baid am gyfleoedd i wella ac i gyd-weithio er lles y dysgwyr. Mae apwyntiad Catrin gan GolegauCymru yn rhan o ymateb y sector addysg bellach i’r angen i wella addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Gorffennodd John Graystone drwy ddweud: “Daw Catrin â phrofiad helaeth gyda hi o ddatblygu gwasanaethau newydd, ymateb i ofynion cleientiaid, ac fel tiwtor Cymraeg yn y gweithle. ’Rwyf yn hyderus bydd ei chreadigrwydd a’i hymatebolrwydd yn gwasanaethu’r colegau’n dda ac ’rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn gwneud ei marc yn y swydd newydd hon.”
Dwedodd Catrin Stephens: “Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ddechrau gweithio gyda cholegau addysg bellach. Mae’r colegau yn amlwg yn awyddus iawn i ddatblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. ’Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda holl brif randdeiliaid y colegau, gan gynnwys ysgolion, sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr.”
-----------------------------------Diwedd------------------------------------
Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:
1. Enw blaenorol ColegauCymru oedd fforwm. Elusen addysgol genedlaethol ydyw sy’n cynrychioli pob un o’r 21 o golegau a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Ei chenhadaeth yw codi proffil addysg bellach gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth am GolegauCymru a’r colegau mae’n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk
2. Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Dwyieithrwydd ar gael o http://www.colegaucymru.ac.uk/cy-GB/cyhoeddiadau-24.aspx
3. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol am y tair blynedd nesaf ar gyfer penodi pedwar Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn y colegau canlynol:
- Coleg Iâl, Wrecsam
- Coleg Ceredigion
- Coleg Glan Hafren/Coleg y Barri/Coleg Cymunedol YMCA/WEA(S)
- Coleg Gwent
Yn ogystal, bu i Lywodraeth Cymru gefnogi pedwar coleg drwy gyfnod peilot y prosiect Hyrwyddwyr Dwyieithog ac mae’r colegau canlynol yn parhau i gynnal y swyddi yma:
- Coleg Sir Gâr
- Coleg Glannau Dyfrdwy
- Coleg Castell Nedd port Talbot
- Coleg Llandrillo Cymru
4. Bydd Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd ColegauCymru yn gweithio’n agos gyda’r holl Hyrwyddwyr Dwyieithog a hefyd gyda chanolfan Sgiliaith sy’n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth datblygu dwyieithrwydd i golegau addysg bellach.
5. Rhai o brif dasgau’r Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd fydd:
- Gwella argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg
- Cynyddu gallu athrawon i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg ôl-14 ac ôl-16, yn enwedig mewn meysydd arbenigio galwedigaethol a thechnegol.
- Rhoi cymorth i ddysgwyr barhau i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg wrth symud o un math o ddarparwr i’r nesaf.