beth sy' mlaen
Wythnos Arian sy'n dechrau'r galendr ddigwyddiadau yn y flwyddyn newydd. Cychwynnodd Wythnos Arian yn 2009 - pryd cafodd ei effeithio gan yr eira trwm! Ond cafwyd flas arni yn 2010 gyda hanner colegau Cymru yn cymryd rhan.
Mae ColegauCymru yn llwyfannu Cynhadledd ar Gymwysterau ar 2 Chwefror 2012 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. O nawr tan wedi'r gynhadledd mae gwahoddiad i bawb gyfranogi arlein i fforwm trafod fydd yn bwydo Adolygiad Cymwysterau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru http://qualificationsconference.pbworks.com
| Y dyddiad cau ar gyfer yr Her Arian am Oes yw 24 Chwefror, gyda rownd derfynol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 4 Ebrill a rownd derfynol mawreddog y DU ym mis Mai 2012. |
 |
Mae ColegauCymru yn llwyfannu
Cynhadledd ar Ddysgu ac Addysgu ar 30 Mawrth 2012 yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd. Arweinir y gynhadledd gan Geoff Petty.
Caiff Wythnos Ddysgu Oedolion ei drefnu gan Niace Dysgu Cymru mewn cydweithrediad a nifer o golegau ac eraill ym mis Mai.
Mae cynhadledd flynyddol ColegauCymru yn cymryd lle ar ddiwedd mis Mai neu ar ddechrau mis Mehefin bob blwyddyn. Caiff y gynhadledd flynyddol nesaf ei chynhal yn Venue Cymru, Llandudno ar 31 Mai 2012.
Mae Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol - Diwrnod VQ - yn cymrydd lle ar draws y DU ar 20 Mehefin 2012. Ym Mehefin 2011 llwyfanwyd ddigwyddiad allweddol llawn bwrlwm a dangosfeydd sgiliau galwedigaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn ogystal a seremoni wobrwyo Gwobr VQ yn ystod y bore gyda'r amryddawn Lowri Morgan. Bu i Goleg Llaneurgain yng Ngogledd Cymru gynnal arddangosfa o sgiliau ymarferol yng nghwmni 200 o blant ysgol.
Mae ColegauCymru a nifer o'i aelod-golegau wrthi'n trefnu eu cynrychiolaeth yn Sioe Frenhinol Llanelwedd 23-26 Gorffennaf 2012. Galwch draw am baned!
Cystadleuaeth fyd-eang yw WorldSkills, gyda thimoedd cenedlaethol o bobl ifainc hynod alluog yn cystadlu am fedalau ar draws 46 o ddisgyblaethau galwedigaethol ac am safle uchel ar restr goreuon y byd. Daeth WorldSkills i'r DU yn 2011. Bob yn ail flwyddyn caiff WorldSkills ei llwyfannu. Fe'i gwelir nesaf yn Leipzig, Yr Almaen yn 2013. .
Ym mis Tachwedd mae: Wythnos Mentergarwch Byd-Eang.
I gloi'r flwyddyn, mae Wythnos Beirianneg Cymru yn gwahodd timau o ddisgyblion ysgol Blwyddyn 9 i'w colegau lleol ar ddiwedd Tachwedd/dechrau Rhagfyr bob blwyddyn i gymryd rhan mewn sesiynau diddorol a hwyliog er mwyn dangos peirianneg ar waith.