Heledd Cynwal, gwesteiwraig y Seremoni Wobrwyo 2010

gwobrau blynyddol

Mae Gwobrau Blynyddol ColegauCymru yn adnabod cyrhaeddiad rhagorol, yn tynnu sylw at ehangder y ddarpariaeth sydd ar gynnig mewn sefydliadau addysg bellach, ac hefyd yn cydnabod y cydweithrediad sydd rhwng y sefydliadau â chyrff eraill.

Yn 2012, ceir chwe gwobr sy'n adnabod rhagoriaeth gan sefydliadau:

  • Addysgu a Dysgu
  • Buddsoddi mewn Datblygiad Staff
  • Addysg Uwch mewn Addysg Bellach
  • Llywodraethu 
  • Hyrwyddo Dysgu Cynhwysol 
  • Partneriaethau o Ansawdd

Er mwyn i'r cais fod yn gymwys, rhaid bod y gweithgaredd a ddisgrifir yn y cais fod: wedi bod ar waith am chwe mis o leiaf; yn enghraifft o arloesedd ac/neu arfer da ac yn deilwng o gael ei dosbarthu i bobl eraill; o fantais uniongyrchol i ddysgwyr ac/neu staff mewn sefydliadau addysg bellach; ac yn cyfrannu at godi ansawdd a safonau mewn addysg, hyfforddiant a dysgu gydol oes. 

Yn ogystal, cynigir dwy wobr ar gyfer rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu gan unigolion:

  • Athro/Athrawes y Flwyddyn a
  • Dysgwr y Flwyddyn 

I fod yn gymwys, rhaid bod yr unigolion a enwebir  fod: wedi bod yn ddysgwr neu'n athro/athrawes yn y coleg yn y flwyddyn ddiwethaf; yn ddysgwr/athro/athrawes enghreifftiol ac yn batrwm i eraill; yn gwneud cyfraniad eithriadol at y coleg y tu allan i'r amgylchedd dysgu.

y manylion

Pecyn Gwobrau Blynyddol 2012 - mae'r pecyn yn cynnwys manylion o'r teitlau a'r categoriau, y meini prawf, y broses gyflwyno cais a dyddiadau allweddol.

Ffurflen Gais 2012 Application Form - mae'r pecyn hwn yn cynnwys cyfarwyddiadau cynhwysfawr yn egluro sut i gyflwyno cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn a wnewch chi ffonio Sylvia Davies ar 029 2052 2500.

yr enillwyr

Cyhoeddir yr enillwyr yn y Seremoni Wobrwyo a gynhelir ar 31 Mai 2012 yn Venue Cymru, Llandudno.

Enillwyr y gorffennol

Am restr y gwobrau a'r enillwyr blaenorol, ewch at y dudalen hon: gwobrau blynyddol: enillwyr y gorffennol

Cyhoeddwyd llyfryn i gyd-fynd â seremoni wobrwyo 2011 sy'n olrhain rhinweddau nodedig y ceisiadau a gyraheddodd y rhestr fer.

Cliciwch yma am y llyfryn: Gwobrau ColegauCymru - cyhoeddiad

 

Calendr Gwobrau 2012

  • 27/02/2012
    dyddiad cau i geisiadau
  • 19/03/2012
    hysbysu'r colegau ar y rhestr fer
  • 26/03/2012 - 05/04/2012
    cyflwyniad 30 munud o hyd gan bob sefydliad sydd ar y rhestr fer i'r panel ddewis
  • 31/05/2012
    Seremoni Wobrwyo a Chinio'r Gynhadledd Flynyddol yn Venue Cymru, Llandudno.

 

noddwyr

Welsh Government

ColegauCymru, Uned 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Caerdydd, CF15 7AB. E:helo@colegaucymru.ac.uk Ff: 029 2052 2500
CollegesWales, Unit 7, Cae Gwyrdd, Greenmeadow Springs, Tongwynlais Cardiff, CF15 7AB. E:hello@collegeswales.ac.uk T: 029 2052 2500